Amdanaf i

Woman in an aesthetics salon standing next to a treatment chair.

Helo Julie dw i.

Dw i'n Ymarferydd Nyrsio Uwch, yn Bresgripsiynydd Annibynnol ac yn Ymarferydd Esthetig, gyda 20 mlynedd o brofiad yn y GIG. Mi wnes i sefydlu Llŷn-Ox er mwyn cyfuno fy arbenigedd clinigol â'm diddordeb mewn iechyd y croen ac estheteg feddygol, gan helpu cleientiaid i gyflawni canlyniadau naturiol sy'n rhoi mwy o hyder iddynt, mewn amgylchedd diogel a phroffesiynol.

Fy Nghefndir...

Dw i wedi graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd BSc (Anrh) mewn Nyrsio Oedolion yn 2006, ac ers hynny dw i wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau o fewn y GIG, mewn lleoliadau ysbyty ac yn y gymuned.

Yn 2019, mi wnes i gwblhau MSc mewn Ymarfer Clinigol Uwch a chymhwyso fel Presgripsiynydd Annibynnol Anfeddygol. Dw i bellach yn gweithio llawn amser yng nghlinig Llŷn-Ox.

Sut Dw i'n Gweithio

Dw i wedi hyfforddi mewn estheteg feddygol gyda SkinViva ym Manceinion, un o'r prif ddarparwyr hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Dw i'n cynnig amrywiaeth o driniaethau esthetig a gofal croen sydd ddim yn llawfeddygol, gan gynnwys triniaethau i ymlacio crychau, llenwyr dermol, triniaethau hydradu'r croen, therapïau croen a chynhyrchion gofal croen gradd feddygol.

Dw i'n gweithio drwy ganolbwyntio ar wella eich nodweddion naturiol yn hytrach na'u newid. Dw i'n credu mewn canlyniadau naturiol sy'n cefnogi croen iach a hyder hirdymor.

Diogelwch a Gofal Proffesiynol

Eich diogelwch a'ch lles sydd bwysicaf i mi bob amser.

Mae pob triniaeth yn cael ei chynnal gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol cymwys, gan ddefnyddio cynhyrchion gradd feddygol sy'n dod o fferyllfeydd rheoledig yn y DU. Mae Llŷn-Ox wedi'i hyswirio'n llawn drwy Cosmetic Insure, ac mae pob triniaeth yn cael ei darparu yn unol â'r safonau clinigol a'r arferion gorau diweddaraf.

Fy Addewid

Dw i yma i roi cyngor gonest, cynnig triniaethau wedi'u teilwra i'r unigolyn, a sicrhau canlyniadau naturiol sy'n eich helpu i deimlo'n fwy hyderus yn eich croen eich hun.

Dw i'n edrych ymlaen at eich croesawu i Llŷn-Ox.

Beige armchair in a room with wooden flooring and a plant, featuring the brand 'LLYN-OX'.

Am Llŷn-Ox

Mae Llŷn-Ox yn glinig preifat sy'n cynnig amgylchedd tawel a chroesawgar, i ffwrdd o brysurdeb clinigau canol tref.

Mae pob apwyntiad yn un-i-un, gan roi digon o amser ar gyfer ymgynghoriad manwl, cynllun triniaeth wedi'i deilwra i chi, a'r safon uchaf o ofal mewn amgylchedd preifat a phroffesiynol.

Gwneud apwyntiad
ZO Health treatment at Llŷn-Ox

Man gwerthu swyddogol awdurdodedig ar gyfer ZO Skin Health

Rydym yn falch o fod yn fan gwerthu swyddogol awdurdodedig ar gyfer ZO Skin Health, y brand gofal croen meddygol gorau yn y byd. Defnyddir y cynhyrchion yn ystod rhai triniaethau ac maent ar gael i'w prynu'n uniongyrchol o'r clinig.

Mwy