Mae Llŷn-Ox yn glinig esthetig ym Mhwllheli sy'n cynnig triniaethau o'r safon uchaf mewn safle diogel, preifat a chroesawgar. Mae pob triniaeth yn cael ei darparu gan Ymarferydd Nyrsio Uwch profiadol.
Rydym yn arbenigo mewn triniaethau ymlacio crychau, llenwyr dermol, triniaethau esthetig uwch a thriniaethau croen sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi'u teilwra i wella eich harddwch naturiol a chefnogi iechyd eich croen yn y tymor hir.
Mae pob triniaeth o'r safon uchaf o ofal clinigol, eich diogelwch, a gwasanaeth personol un-i-un.
Triniaethau o'r safon uchaf
Proffesiynol. Dibynadwy. Canlyniadau naturiol.
Gofal pob cam o'r ffordd
Triniaethau diogel wedi'u teilwra i chi.
Gwasanaeth broffesiynol
Profiad ac arbenigedd clinigol.
Amdanaf i
Helo, Julie ydw i, perchennog Llŷn-Ox.
Dw i'n Ymarferydd Nyrsio Uwch, yn Bresgripsiynydd Annibynnol ac yn Ymarferydd Esthetig, gyda 20 mlynedd o brofiad yn y GIG. Drwy Llŷn-Ox, dw i'n cyfuno fy arbenigedd clinigol â'm diddordeb mewn iechyd y croen ac estheteg feddygol, gan gynnig triniaethau diogel wedi'u teilwra i'r unigolyn sy'n helpu i wella eich harddwch naturiol a rhoi mwy o hyder i chi.
Mae fy null o weithio bob amser yn broffesiynol ac yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda'r nod o sicrhau canlyniadau naturiol.
Triniaethau
Cymerwch gipolwg ar y triniaethau sydd ar gael yn Llŷn-Ox a dewiswch yr un sy'n gweddu orau i chi.